Welsh Prayers

Rydym ni yn Gweddi dros Ysgolion yn dyheu am weld gweddïau’n cael eu hoffrymu dros bob ysgol yn ein gwlad!

Cymraeg Caru Ein Hysgolion 2021

Gallwch lawrlwytho adnoddau eleni yma  Cymraeg Caru’n Hysgolion 2021

Gweddïau 

“Byddwch yn dirion wrth eich gilydd; yn dyner eich calon, yn maddau i’ch gilydd fel y maddeuodd Duw yng Nghrist i chwi”.

Dad cariadus, deuwn atat mewn gweddi yn awr, fel rhan o Garu ein Hysgolion. Diolchwn am y gwaith da sy’n digwydd yn ein hysgolion.

Gweddïwn dros athrawon a staff ategol ein hysgolion. Cofiwn yn ein gweddïau am bawb sy’n gweithio yn ein hysgolion prif ffrwd, ysgolion mewn ysbytai, unedau y mae plant yn cael eu cyfeirio atynt ac unrhyw fath o sefydliad addysgol arall – mae’r cyfan ohonynt am gynorthwyo ein plant, wrth iddynt ddysgu, tyfu a datblygu. Gweddïwn am i’th drugaredd a’th arweiniad di fod gyda’r staff, wrth iddynt geisio ysbrydoli disgyblion eu dosbarthiadau. Dyro i athrawon garedigrwydd, tiriondeb, a doethineb, gyda’r cyfan yn cael ei gadarnhau trwy dy enw Sanctaidd.

Dduw byw, gweddïwn dros bob plentyn, wrth iddynt ddilyn eu gyrfa ysgol. Boed iddynt gael eu cefnogi gan gyfeillgarwch, teuluoedd, addysg, eu hathrawon a’r staff ategol er mwyn iddynt flodeuo a datblygu o ddydd i ddydd. Pan ddaw anawsterau a heriau i ran plentyn, dyro ddewrder i geisio’r gefnogaeth sydd ei hangen a galluoga’r ysgol i ddangos caredigrwydd a chariad tuag atynt, wrth iddynt ddarganfod y ffordd ymlaen.

Gweddïwn dros ein heglwysi, y byddwn yn ceisio perthynas agosach rhwng ein bywyd fel Cristnogion a’r ysgolion sydd o’n hamgylch. Dduw byw, cynorthwya ni i weddïo dros, a gweithio gydag ysgolion ein cymunedau.

Dduw Hollalluog, gofynnwn i ti fendithio bywyd beunyddiol pawb yn ein hysgolion.

Gweddïwn hyn yn enw Iesu, ein hathro a’n cyfaill. Amen

Parch Sara Iles, Grŵp yr Eglwysi Rhyddion

 

“Graslon a thrugarog yw’r Arglwydd, araf i ddigio a llawn ffyddlondeb.” Salm 145 ad 8

Gweddïwn am galonnau llawn tosturi; Arglwydd helpa ni i garu a gwasanaethu y rhai sydd o’n hamgylch waeth beth yw’r gwahaniaethau rhyngom. Atgoffa ni o’r angen i beidio caledu’n calonnau, i edrych ar eraill fel yr wyt ti’n eu gweld, er mwyn i ni fod yn oleuni yn eu bywydau. Arglwydd, agor ein llygaid i weld y rhai o’n hamgylch sydd angen tosturi. Helpa ni i wrando, i ddeall eu hanghenion, i ddangos diddordeb yn eu helbulon. Arglwydd, helpa ni i fod yn debycach i ti mewn byd llawn poen, unigrwydd a doluriau – gad i ni fod yn llais i’r gorthrymedig, yn rhoddwyr i’r tlawd, ac yn gefnogaeth i’r rhai sy’n anabl. Arglwydd, boed i ni garu eraill fel yr wyt ti’n eu caru.

Prayer Spaces in Schools

“Byddwch yn dirion wrth eich gilydd; yn dyner eich calon, yn maddau i’ch gilydd fel y maddeuodd Duw yng Nghrist i chwi”.

O Dduw,

Diolch fod yna bobl drugarog yn y byd

Helpa ni i fod yn wyliadwrus, ac yn barod i wrando er mwyn bod yn ymwybodol o unrhyw arwydd o angen yn ein hysgolion. Dangos i ni sut i ymateb yn feddylgar i unrhyw berson sy’n cael bywyd yn anodd trwy ddangos caredigrwydd tuag atynt. Boed i’th oleuni di lewyrchu trwom ni i’w codi o’u tywyllwch. Amen

Agor y Llyfr

 

Dduw cariadus, helpa ni i ddangos dy dosturi i bawb. Dad, dysga ni i fod yn fwy tosturiol i’r rhai yn ein hysgolion sy’n cael bywyd yn anodd oherwydd straen.

Agor ein llygaid a’n clustiau i’r rhai sydd angen rhywun i wrando arnynt. Helpa ni i ddeall yr heriau y mae disgyblion ac athrawon yn eu hwynebu.

Arwain ni â’th ddoethineb i wybod sut y gallwn gefnogi disgyblion ac athrawon. Rho i ni dy eiriau o garedigrwydd er mwyn rhoi anogaeth i eraill, yn enwedig y rhai sydd mewn angen. Helpa ni i fod yn ddwylo ac yn draed i ti yn rhannu dy gariad â’r rhai y byddwn yn eu cyfarfod mewn ysgolion.

Boed i’th Ysbryd Glân ein hysgogi i wybod pryd a sut y dylem rannu’r Newyddion Da. Amen.

Undeb y Gair

 

Arglwydd Iesu, diolch i Ti am faddau pob peth i ni a’n rhyddhau o euogrwydd a chywilydd. Oherwydd hyn, pan fydd rhywun yn tarfu arnom, a hynny’n fwriadol, rho i ni ddigon o gariad i allu maddau iddynt, yn hytrach na dial. Mae hynny’n anodd, weithiau bron yn amhosibl – ond gyda help yr Ysbryd Glân gallwn wneud hynny. Amen

CARE

 

Gweddïau newydd ar gyfer 2020 – gan Share A Prayer

 Arglwydd Dduw

Bydd gyda phob grŵp gweddi yn ein hysgolion (ychwanegwch enw eich dinas/tref/pentref) a phawb sy’n gweddïo dros y gwaith o feithrin ein plant a’n pobl ifanc.

Boed i’r plant deimlo grym ein gweddïau dros eu lles a’u hiechyd meddwl. Diolchwn i ti am dy gariad sy’n cwmpasu plant ein hysgolion.

Bendithiwn ac addolwn dy enw sanctaidd

Amen

Jenny – Rhwydwaith Gweddi dros Ysgolion Cheltenham 

 

         

Gweddïau sy’n ein hannog i fod yn ystyriol o’n hamgylchedd gan ddau ddisgybl Blwyddyn 4 mewn ysgol yn  Swydd Northampton.

Arglwydd,

Gofynnwn i ti ein helpu i arbed y greadigaeth odidog a greaist ar ein cyfer.

Rydyn ni am gael gwared o’r plastig sy’n dal i lenwi ein moroedd a’n cefnforoedd.

Cyn hir, bydd ein camgymeriadau ni yn golygu y bydd creaduriaid y môr yn marw, mae angen i ni eu gwarchod.

Gofynnwn am dy help i argyhoeddi pawb i weld yr angen i weithredu

Amen

Grace a Xanthe

 

Gan athrawes yn Lundain

 

Dad Nefol

Diolch am yr ysgol hon, ac am fy ngosod yn y fan rwyt ti am i mi fod. Rwy’n gweddïo y byddi’n rhoi nerth a chryfder emosiynol i mi allu bod yr hyn rwyf angen ei fod i bob un myfyriwr sydd o dan fy ngofal; helpa fi i beidio ag angofio fod gan pob unigolyn ei anghenion a’i gefndir. Helpa fi i fod yn oleuni iddynt wrth ddangos amynedd, arweiniad, a charedigrwydd. Pan fyddaf yn wan, bydd yn gadernid i mi, a choda fi er mwyn i mi fod yr hyn sydd ei angen arnynt. Pan fyddaf yn amau effaith fy nylanwad, atgoffa fi y gallaf, ynot ti, ddylanwadu’n bwerus ar genhedlaeth fydd yn trawsnewid y byd ac yn gwneud hi’n bosib i’th deyrnas ddod.

 

Dad, rwy’n gweddïo, pan fyddaf yn teimlo rhwystredigaeth oherwydd mân reolau, pan fyddaf yn ymwybodol o gyfyngiadau fy rol, y byddi di yn gwneud i mi deimlo llawenydd a chyffro wrth i mi neidio o’m gwely ar fore tywyll ac oer. Diolch, Arglwydd, am bob myfyriwr sydd wedi eu gosod gennyt dan fy ngofal. Diolch i ti am eu rhieni a’u brodyr a’u chwiorydd. Gweddïaf y byddaf yn gallu dangos dy gariad caredig a’th gefnogaeth i bob myfyriwr a theulu hyd yn oed mewn amseroedd anodd a heriol. Dyro i mi ddoethineb i wybod pa frwydrau y dylid eu hymladd, a’r rhai fydd yn arwain at newid, a brwdfrydedd i barhau yn y gwaith. Rwy’n gweddïo y byddi’n adfywio’r cariad sydd gennyf at ddysgu. Diolch am y rhodd werthfawr a dderbyniais gennyt ac arfoga fi â’r hyn rwyf ei angen  er mwyn y rhai rwyt ti wedi eu gosod dan fy ngofal.

 

Yn enw Iesu

Amen

 

Caru Ein Hysgolion #loveourschools

Latest Events

View calendar

Latest News

Read more

Find a Group

Search now

DONATE